Kidderminster 3–1 Wrecsam

Colli fu hanes Wrecsam yn Stadiwm Aggborough brynhawn Sadwrn yn eu gêm yn erbyn Kidderminster yn Uwch Gynghrair Skrill.

Aeth y tîm cartref ddwy gôl ar y blaen cyn i gynnig yr eilydd, Adrian Cieslewicz roi llygedyn o obaith i’r Cymry. Ond diflannodd unrhyw obaith mewn cyfnod o funud pan sgoriodd Kidderminster eu trydedd a derbyniodd Andy Bishop gerdyn coch.

Rhoddodd Joe Lolley’r tîm cartref ar y blaen wedi hanner awr pan grymanodd ergyd droed chwith i gefn y rhwyd, a dyblodd y fantais gydag ergyd nerthol toc wedi’r awr.

Dyfarnwyd gôl i’r eilydd, Cieslewicz, ugain munud o’r diwedd yn dilyn trafodaeth hir gan i’r bêl ddianc trwy dwll yn y rhwyd.

Ond adferodd Chey Dunkley ddwy gôl o fantais yr Harriers yn fuan wedyn gyda gôl o gic gornel a gorffennodd y Dreigiau gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch Bishop am drosedd ar Kyle Storer.

Mae’r canlyniad yn codi Kidderminster i’r ail safle yn nhabl y Gyngres, tra mae Wrecsam yn aros yn yr unfed safle ar bymtheg.

.

Kidderminster

Tîm: Lewis, Dunkley, Gowling, Vaughan, Fowler (Byrne 83′), Jackman, Storer, Gash (Johnson 90′), Morgan-Smith (Blissett 90′), Malbon, Lolley

Goliau: Lolley 31’, 64’, Dunkley 78’

Cardiau Melyn: Gash 27’, Fowler 66’

.

Wrecsam

Tîm: Mayebi, Ashton, Artell, Wright, Keates (Hunt 84′), Harris, Carrington, Clarke, Ormerod (Cieslewicz 60′), Ogleby (Creighton 84′), Bishop

Gôl: Cieslewicz 71’

Cardiau Melyn: Artell 39’, Clarke 56’, Harris 66’, Ashton 90’

Cerdyn Coch: Bishop 79’

.

Torf: 2,532