Alan Curtis
Mae hyfforddwr tîm cyntaf Abertawe Alan Curtis wedi pwysleisio pwysigrwydd y Gynghrair Ewropa i’r clwb wrth iddyn nhw baratoi i herio Kuban Krasnodar nos fory.
Bydd Abertawe’n herio’r gwrthwynebwyr o Rwsia yn Stadiwm y Liberty llawn hyder ar ôl dwy fuddugoliaeth mewn dwy gêm yn y gystadleuaeth hyd yn hyn.
Mae’r Elyrch yn eistedd ar frig y grŵp ar hyn o bryd wedi buddugoliaethau yn erbyn Valencia 3-0 oddi cartref a St Gallen 1-0 yn Abertawe.
Denu sylw ehangach
Mae’r gystadleuaeth wedi cael ei beirniadu yn y gorffennol gan rai clybiau yn yr Uwch Gynghrair o fod yn faich, oherwydd y teithio a’r ffaith fod yn rhaid iddynt chwarae yn y gynghrair ddydd Sul yn dilyn gemau Ewropeaidd ar nos Iau.
Ond mae Curtis yn credu fod yr ymgyrch yn Ewrop wedi helpu yn hytrach na llesteirio’u hymdrechion yn yr Uwch Gynghrair.
“Mae wedi bod yn grêt i’r clwb – mae pawb wedi mwynhau [yr ymgyrch Ewropeaidd] hyd yn hyn,” meddai Curtis.
“Dwi’n credu fod y twrnament wedi’n helpu ni yn yr Uwch Gynghrair hefyd – pan aethon ni i West Brom a Crystal Palace roedden ni wedi’n paratoi yn llawer gwell o’i gymharu â nhw ac o’u blaenau nhw o ran ffitrwydd.”
Ac mae’r ymgyrch Ewropeaidd wedi cael effaith ehangach oddi ar y cae hefyd, yn ôl Curtis.
“Dy ni’n cyrraedd cynulleidfa newydd hefyd. Dwi wedi cael pobol yn cysylltu ar draws Ewrop yn dweud eu bod nhw wedi mwynhau’n gwylio ni ar y teledu.”
“A lle bynnag ydyn ni, mae’n cefnogwyr ni wedi gwneud i ni deimlo fel mai ni sy’n chwarae gartref – maen nhw’n hwb mawr i ni. Mae’r gystadleuaeth wedi gwneud byd o les i’r clwb.”
Un droed yn y rownd nesaf
Yn y cyfamser mae rheolwr Abertawe Michael Laudrup yn credu y bydd gan y clwb un droed yn rownd nesaf y gystadleuaeth petai modd iddyn nhw drechu Kuban nos fory.
Dyw’r gwrthwynebwyr heb gael pwynt yng Ngrŵp A na sgorio gôl hyd yn hyn, ar ôl colli 2-0 yn eu dwy gêm gyntaf, tra bod Abertawe heb ildio gôl yn y grŵp eto.
Cyfaddefodd Laudrup mai’r Elyrch fydd y ffefrynnau unwaith yn rhagor, ond rhybuddiodd bod angen cymryd Kuban o ddifrif.
“Mae ganddyn nhw chwaraewyr ymosodol da a chyflym,” meddai Laudrup wrth wefan y clwb. “Maen nhw’n beryglus wrth wrthymosod.
“Ond ni sydd gartref, ni yw’r ffefrynnau a ‘dy ni eisiau ennill. Os ydyn ni, bydd gennym ni un droed yn y rownd nesaf.”
Un chwaraewr fydd yn wyneb cyfarwydd i gefnogwyr Abertawe yw’r ymosodwr Djibril Cisse, a arwyddodd i Kuban dros yr haf ar ôl gadael Queens Park Rangers.
Davies allan am fis
Yn y cyfamser, fe gadarnhaodd y clwb y gall y cefnwr chwith Ben Davies fod allan am hyd at fis wedi iddo anafu’i ffer yn y fuddugoliaeth dros Sunderland dros y penwythnos.
Bydd Neil Taylor, ddaeth i’r maes yn lle Davies ddydd Sadwrn, yn gobeithio dechrau nos fory, yn ogystal â Pablo Hernandez sy’n dychwelyd o anaf ar ôl wyth gêm, ond fe fydd Ashley Williams yn parhau i fod yn absennol.
Bydd disgwyl i Laudrup wneud rhagor o newidiadau i’r tîm ar gyfer y gêm, fel y mae wedi gwneud drwy gydol y gystadleuaeth hyd yn hyn.
Ond dyw paratoadau’r gwrthwynebwyr ddim wedi bod yn esmwyth chwaith gyda rheolwr newydd, Viktor Goncharenko sydd gynt o BATE Borisov, yn cymryd yr awenau’n gynharach y mis hwn ar ôl i Dorinel Munteanu adael.