Abertawe 1–0 FC St Gallen
Mae Abertawe’n aros ar frig grŵp A Cynghrair Ewropa ar ôl curo FC St Gallen o gôl i ddim mewn gêm anodd ar y Liberty nos Iau.
Fe chwaraeodd yr ymwelwyr o’r Swistir eu rhan mewn gêm gorfforol ond roedd gôl Wayne Routledge toc wedi’r egwyl yn ddigon i gipio’r tri phwynt i’r Elyrch.
Hanner Cyntaf
Dechreuodd St Gallen yn dda a chawsant gyfle gwych i fynd ar y blaen pan ildiodd Dwight Tiendelli gic o’r smotyn gynnar am lawio yn y cwrt cosbi. Yn ffodus i’r tîm cartref roedd cynnig Goran Karanoviç o ddeuddeg llath yn chwerthinllyd ar arbedodd Gerhard Tremmel hi’n hawdd.
Bu rhaid aros tan hanner ffordd trwy’r hanner am gyfle cyntaf Abertawe pan beniodd Jordi Amat gic rydd Ben Davies yn erbyn y postyn.
Dylai fod y tîm cartref fod wedi cael dwy gic o’r smotyn wedi hynny am droseddau yn erbyn Miguel Michu ond roedd y dyfarnwr o Bortiwgal, Nuno Duarte Gomes, yn cael gêm wael.
Parhau i bwyso a wnaeth yr ymwelwyr ond Abertawe a gafodd gyfle olaf yr hanner pan gyfunodd Michu a Wilfred Bony yn dda cyn i Bony ergydio heibio’r postyn.
Ail Hanner
Roedd Abertawe yn well wedi’r egwyl ac roeddynt ar y blaen o fewn dim diolch i gôl Routledge. Ergydiodd Bony ar draws ceg y gôl a sgoriodd Routledge i rwyd wag wrth y postyn pellaf.
Gwnaeth Alhassane Keita gyfle da iddo’i hun yn y pen arall wedi hynny ond cododd ei ergyd dros Tremmel a’r trawst.
Daeth eilydd yr Elyrch, Álvaro Vázquez, yn agos gyda’i gyfraniad cyntaf ar ôl dod i’r cae ond ergydiodd heibio’r postyn.
Daeth eilydd arall, Nathan Dyer, yn agos hefyd gyda foli dda ond gwnaeth gôl-geidwad St Gallen, Daniel Lopar, yn dda iawn i arbed ei gynnig.
Yn y pen arall, fe darodd Stéphane Nater y postyn gydag ergyd dda o bellter wrth i Abertawe ddal eu gafael ar eu mantais fain.
Mae’r fuddugoliaeth yn cadw’r Cymry ar frig grŵp A gyda’r ddwy gêm nesaf i ddod yn erbyn y tîm ar y gwaelod, Kuban Krasnodar o Rwsia.
.
Abertawe
Tîm: Tremmel, Amat, Tiendalli, Chico, Davies, Michu, Routledge (Dyer 62′), Britton, Pozuelo (Shelvey 83′), De Guzmán, Bony (Alvaro 70′)
Gôl: Routledge 52’
Cardiau Melyn: Davies 77’, Dyer 78’
.
FC St Gallen
Tîm: Lopar, Montandon (Russo 73′), Besle, Lenjani, Martic, Mathys, Rodriguez (Nater 62′), Vitkieviez, Janjatovic, Mutsch, Karanoviç (Keita 45′)
Cerdyn Melyn: Martic 78’
.
Torf: 17,000