Dyw perthynas rheolwr Cymru, Chris Coleman, a’r amddiffynnwr James Collins heb newid ers i Collins wrthod ymuno â charfan Cymru cyn iddynt herio Serbia, yn ôl y rheolwr.

Wrth gyhoeddi ei dîm ar gyfer y gemau yn erbyn Macedonia a Gwlad Belg bore ‘ma, cadarnhaodd Coleman fod Collins wedi gwrthod ymuno â’r garfan ar gyfer y gêm fis diwethaf, gan ategu ei siom â’r chwaraewr.

Roedd Coleman wedi gadael amddiffynnwr West Ham allan o’r garfan wreiddiol ar gyfer y gemau’n erbyn Macedonia a Serbia.

Er fod Collins wedi gwadu hynny’n gyhoeddus yn ddiweddarach, yn ôl ei reolwr fe wrthododd ymuno â’r garfan ar gyfer yr ail gêm pan gollodd Cymru o 3-0 yn erbyn Serbia, pan oedd ei angen yn dilyn anaf i Sam Ricketts a gwaharddiad i Ashley Williams.

Siomedig iawn

“Dw i ddim wedi newid fy safbwynt ers y gêm ddiwethaf,” meddai Coleman ynglŷn â Collins. “Roeddwn i’n siomedig iawn gyda’r sefyllfa.

“Dwi’n licio James, mae’n foi da, ond dwi ddim yn hoffi gweld hynna. Mae gen i fy egwyddorion a dwi am lynu atyn nhw.

“Pam fydden ni’n gwneud stori fel ‘na i fyny? Dydy o ddim yn ein helpu ni o gwbwl.”

Ond pan ofynnwyd iddo a oedd hyn yn golygu nad oedd ffordd nol i’r garfan i Collins gydag ef fel rheolwr, roedd Coleman yn llai pendant.

“Allwn ni ddim dweud ‘byth’,” meddai’r rheolwr. “Dwi eisiau eistedd lawr gyda James a chael sgwrs am y peth. Ond roedd beth wnaeth o’n anghywir.”

Dyfodol Bellamy

Fe gyfaddefodd Coleman fod posibilrwydd mai dyma fyddai gemau olaf Craig Bellamy dros ei wlad, ar ôl i’r ymosodwr awgrymu ei fod yn ystyried ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.

“Dyw Craig ddim yn mynd yn iau,” meddai’r rheolwr.

“Byddai’n siarad efo fo dros yr wythnosau nesa’ i weld beth yw’r ffordd ymlaen. Mae o wedi gwasanaethu Cymru mor dda dros y blynyddoedd.”

“Yn ddelfrydol beth ydyn ni angen yw grŵp o chwaraewyr fydd yno ar gyfer yr ymgyrch nesaf i gyd, nid chwarae’r dau neu dri gêm cynta’ yn unig.”

Dim cytundeb newydd eto

Ategodd Coleman nad oedd yn meddwl ymhellach na’r ddwy gêm nesaf, yn dilyn beirniadaeth gan rai cefnogwyr wedi canlyniadau siomedig y mis diwethaf.

“Does neb yn hoffi cael eu beirniadu, ond dwi ddim am golli cwsg dros y peth,” meddai. “Dw i ddim yn siŵr os mai dyma’r adeg iawn i arwyddo’r cytundeb newydd. Dwi eisiau cael y gemau yma allan o’r ffordd gyntaf.”

“Fydden i byth adael fy ngwlad ar ganol ymgyrch, dwi ddim yn credu mai dyna’r peth iawn i wneud. Ond dw i ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd ar ddiwedd yr ymgyrch yma eto.”