Bydd Abertawe yn herio St Gallen o’r Swistir yn Stadiwm Liberty heno wrth iddyn nhw barhau a’u hymgyrch yng Nghynghrair Ewropa.
Maen nhw’n eistedd yn gyfforddus ar frig y grŵp wedi un gêm, ar ôl trechu Valencia 3-0 oddi cartref yn eu gêm agoriadol.
Ac er bod St Gallen hefyd wedi ennill eu gêm gyntaf, 2-0 yn erbyn Kuban Krasnodar o Rwsia, Abertawe fydd y ffefrynnau heno.
Delio gyda’r pwysau
“Bydd yna ychydig o bwysau arnom nawr,” meddai Laudrup wrth wefan y clwb. “Mae pawb am ddweud nawr mai Abertawe yw ffefrynau’r grŵp. Mae’n rhaid i ni dderbyn hynny.
“Cawsom ni ddechrau gwych, ond nawr mae’n rhaid i ni ddangos fod gennym ni’r gallu i wneud yr un peth gartref.”
Cytunodd rheolwr St Gallen, Jeff Saibene, mai’r Elyrch oedd y ffefrynnau ar gyfer y gêm heno.
“Mae hon yn sialens enfawr i ni,” meddai. “Rydyn ni’n chwarae tîm mawr o’r Uwch Gynghrair. Ond ‘da ni ddim eisiau dod yma a cuddio – fe awn ni allan yno a rhoi’n gorau glas.”
Cyffro newydd i’r chwaraewyr
Siaradodd yr asgellwr Nathan Dyer am y cyffro yn y clwb y tymor hwn o chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf.
“Mae wedi bod yn mynd yn dda i ni hyd yn hyn,” meddai Dyer. “Mae’n braf gallu chwarae yn erbyn timau o gynghreiriau gwahanol. Bellach ein bod ni’n cadw’r chwaraewyr sydd gennym ni, allwn ni fynd yn bell.”
Pwysleisiodd yr amddiffynnwr Jordi Amat, sydd wedi bod yn chwarae yn lle Ashley Williams yn sgil anaf, fod angen cymryd mantais o chwarae gartref.
“Mae’r Gynghrair Ewropa’n bwysig i ni,” meddai Amat. “Rydyn ni am ennill a mynd mor bell a phosibl. Mae’n bwysig i ennill gartref o flaen ein cefnogwyr ein hunain.”
Dyma’r tro cyntaf i Abertawe herio gwrthwynebwyr o’r Swistir, ond fe fydden nhw’n ofalus iawn o allu eu gwrthwynebwyr ar ôl i St. Gallen drechu Spartak Moscow yn rowndiau rhagbrofol y gwpan.
Mae’r tîm o’r Swistir yn bedwerydd yn eu cynghrair ar hyn o bryd, ond heb golli yn eu saith gêm diwethaf.
Cadarnhaodd Laudrup fod Ashley Williams a Garry Monk yn parhau ag anafiadau, tra bod amheuaeth dros ffitrwydd Pablo Hernandez.