Gareth Bale yn dathlu ei gôl yn erbyn yr Alban flwyddyn yn ôl
Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman wedi cadarnhau na fydd Gareth Bale yn chwarae rhan yn yr un o gemau Cymru’r mis yma er ei fod wedi’i enwi yn y garfan.

Cyhoeddodd Coleman fod Bale yn dal i ddioddef o anaf i’w glun yn y gynhadledd i’r wasg wrth gyhoeddi’r tîm i wynebu Macedonia a Gwlad Belg.

“Rydyn ni wedi siarad â’r doctor sydd wedi dweud na fydd o ar gael,” meddai Coleman.

“Ond ‘da ni wastad wedi dweud ei bod yn anodd iawn iddo gan nad ydy wedi ymarfer drwy’r haf ac wedyn mae disgwyl iddo gamu i mewn yn syth.”

“Fydd o’n methu dod efo ni’n anffodus, felly ‘dwi ddim eisiau gwastraffu’i amser o, na Real Madrid, na’n hamser ni chwaith. Mae’n golled i unrhyw un, yn enwedig i ni.”

Ni chwaraeodd Bale i Real Madrid nos Fercher yng Nghynghrair y Pencampwyr oherwydd yr anaf, a dim ond tair gêm y mae wedi chwarae dros y clwb ers arwyddo o Spurs.

Amheuon dros Ashley Williams

Mae amheuon hefyd dros ffitrwydd Ashley Williams, gyda’r amddiffynnwr yn methu gemau diweddar Abertawe gydag anaf i’w ffêr. Galwodd ei reolwr clwb, Michael Laudrup, ar Gymru i beidio â mentro chwarae’r capten os nad oedd yn holliach.

“Mae gan Michael swydd i’w wneud yn Abertawe, ond byddai’n cydnabod hefyd fod gen i swydd i’w wneud gyda Chymru,” meddai Coleman.

“Mae Ash mor bwysig i ni ag unrhyw un, felly os oes ganddo obaith, nai wthio’n galed i wneud yn siŵr ei fod o’n chwarae.”

“Ond os na fydd o ar gael bydd hyn oherwydd bod Ashley ei hun wedi dweud hynny. Da ni ddim yma ar gyfer cyfnod gorffwys i chwaraewyr.”

Awgrymodd Coleman fod cwestiynau’n parhau dros ffitrwydd Joe Allen, Sam Vokes, Joe Ledley ac Andrew Crofts yn ogystal.

Cadarnhaodd hefyd y byddai Aaron Ramsey’n debygol o gael ei enwi’n gapten petai Williams ddim yn holliach.