Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi cyhoeddi’r garfan fydd yn wynebu Macedonia a Gwlad Belg fis yma yng ngemau olaf Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd Brasil 2014.

Nid oes lle i James Collins yn y tîm, yn dilyn ffrae gyda Coleman fis diwethaf pan honnodd Coleman ei fod wedi gwrthod ymuno â’r garfan yn dilyn gwaharddiad i Ashley Williams ac anaf i Sam Ricketts.

Ond, fe wadodd Collins y cyhuddiad, gan ddweud nad oedd Coleman nag unrhyw un o’r Gymdeithas Bêl-droed wedi cysylltu ag ef.

Bydd Cymru’n chwarae Macedonia ar nos Wener yr 11 Hydref yn Stadiwm Dinas Caerdydd, cyn teithio i herio Gwlad Belg ar y 15fed.

Amheuon dros ffitrwydd

Mae Joe Allen, Ashley Williams a Gareth Bale wedi cael eu cynnwys yn y garfan er gwaetha’r ffaith bod y tri ohonynt yn cario anafiadau ar hyn o bryd.

Mae gan Allen anaf i linyn y gar, a Williams i’w ffêr, ac mae’r ddau’n amheuon ar gyfer gemau eu clybiau ar y penwythnos.

Fe fethodd Bale gêm Real Madrid yng Nghynghrair y Pencampwyr yr wythnos hon gydag anaf i’w glun.

Er fod seren mawr Cymru wedi’i enwi yn y garfan, fe ddywedodd Coleman yn y gynhadledd na fyddai’n chwarae yn yr un o’r ddwy gêm.

Mae cefnwr ifanc Caerdydd Declan John hefyd wedi cael ei gynnwys yn y garfan, gydag yntau eto i ennill ei gap cyntaf dros Gymru.

Ffarwel i Bellamy

Un sy’n debygol o chwarae ei gêm olaf dros Gymru yn ystod y ddwy nesaf yw’r ymosodwr Craig Bellamy, sydd bellach yn 34 oed.

Fe awgrymodd Bellamy, sydd â 76 o gapiau dros ei wlad, yn ddiweddar ei fod yn ystyried ymddeol ar ddiwedd y tymor ac nad oedd yn debygol o chwarae dros Gymru eto’n dilyn terfyn y gemau rhagbrofol yma.

Pwysau ar Coleman

Yn dilyn canlyniadau siomedig fis Medi, pan gollodd Cymru oddi cartref 2-1 i Facedonia cyn cael cweir o 3-0 gartref yn erbyn Serbia, mae’r pwysau ar Coleman i wella perfformiadau’r tîm.

Cyn y gemau ym mis Medi fe awgrymodd Coleman ei fod ar fin arwyddo cytundeb newydd i aros fel rheolwr tan 2016, ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2016.

Ond yn dilyn y ddwy golled fe awgrymodd Prif Weithredwr y Gymdeithas Bêl-droed, Jonathan Ford, fod trafodaethau’n parhau, ac y gall cytundeb newydd ddibynnu ar ganlyniadau’r ddwy gêm nesaf.

Y garfan lawn:

Wayne Hennessey (Wolves), Boaz Myhill (WBA), Owain Fôn Williams (Tranmere); Ben Davies (Abertawe), Danny Gabiddon (Crystal Palace), Chris Gunter (Reading), Adam Matthews (Celtic), Sam Ricketts (Wolves), Neil Taylor (Abertawe), Ashley Williams (Abertawe); Joe Allen (Lerpwl), Jack Collison – (Bournemouth, ar fenthyg o West Ham), Andrew Crofts (Brighton), Declan John (Caerdydd), Andy King (Caerlŷr), Joe Ledley (Celtic), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Sunderland); Gareth Bale (Real Madrid), Craig Bellamy (Caerdydd) Simon Church (Charlton Athletic),
Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley).

Wrth gefn:

Lewis Price (Crystal Palace), David Cornell (St. Mirren, ar fenthyg o Abertawe), Paul Dummett (Newcastle), Craig Davies (Bolton), Steve Morison (Millwall), Joel Lynch (Huddersfield), Ashley Richards (Huddersfield, ar fenthyg o Abertawe), Shaun MacDonald (Bournemouth), James Wilson (Bristol City), Lewin Nyatanga (Barnsley), Rhoys Wiggins (Charlton Athletic), David Cotterill (Doncaster), Owain Tudur Jones (Hibernian).