Carreg filltir arall i Giggs
Daeth Ryan Giggs i’r maes gyda bron hanner awr yn weddill neithiwr gan dorri’r record am y mwyaf o gemau wedi’i chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Hon oedd gêm rhif 145 i Giggs yn y gystadleuaeth, gan basio record seren Real Madrid, Raul, sydd ar 144.
Daeth Giggs o’r fainc i gymryd lle Marouane Fellaini gyda Man United yn ennill 1-0 yn erbyn Shakhtar Donetsk ar y pryd, diolch i gôl gynnar Danny Welbeck.
Ond gyda chwarter awr yn weddill, sgoriodd Taison i unioni’r sgôr a sicrhau mai gêm gyfartal fyddai hi ar garreg filltir Giggs.
Moment arbennig
“Mae’n golygu lot i mi,” meddai Giggs wrth MUTV wedi’r gêm.
“Hwn yw uchafbwynt pêl-droed Ewropeaidd ac mae chwarae cymaint o gemau a hyn yn amlwg yn arbennig.”
Serch hynny, roedd ychydig yn siomedig gyda’r canlyniad terfynol.
“Pan ‘dych chi’n chwarae i United ac yn ennill 1-0, ‘da chi’n disgwyl amddiffyn y fuddugoliaeth. Ond chwarae teg i Shakhtar – mae ganddyn nhw chwaraewyr da.”
Mae Man United bellach ar frig y grŵp gyda phedwar pwynt ar ôl dwy gêm, wedi iddynt drechu Bayer Leverkusen yn eu gêm agoriadol.