Jake Charles
Mae ŵyr un o chwaraewyr gorau hanes pêl-droed Cymru, John Charles, wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’i glwb, Huddersfield.

Arwyddodd yr ymosodwr ifanc, Jake Charles, ei gytundeb proffesiynol cyntaf gyda’r clwb yn gynharach y flwyddyn hon, ar ôl bod gyda nhw ers iddo fod yn 11 oed.

Ddoe fe gadarnhawyd ei fod wedi ymestyn y cytundeb hwnnw nes 2017.

“Teimlo’n wych mod i wedi arwyddo cytundeb newydd 4 mlynedd gyda’r clwb” meddai Charles ar ei gyfrif Twitter.

“Edrych ymlaen at y dyfodol a datblygu gyda Huddersfield.”

Dechrau da i’r tymor

“Mae Jake wedi dechrau’r tymor yn wych,” meddai rheolwr yr Academi Mark Lillis wrth wefan y clwb.

“Ond mae’n dal i ddysgu’r gêm ac fe fydd yn parhau i wrando a datblygu. Mae’n chwarae yn safle’r ‘rhif 10’ ar y funud ac mae’n gwneud yn dda iawn yno.”

“Mae’n aeddfedu fel person oddi ar y cae ac wedi dod yn dipyn o gymeriad, sy’n beth da. Os yw am gamu i fyny i’r tîm dan-21 a’r tîm cyntaf bydd angen iddo ddangos ei bersonoliaeth.”

Mae Charles eisoes wedi sgorio pedair gôl mewn dim ond pum gêm i’r tîm dan-18 y tymor hwn, gan gynnwys ‘hat-trick’ yn erbyn Sheffield Wednesday.

Olion traed mawr i’w dilyn

Mae’r bachgen ifanc, a anwyd yn Leeds, eisoes wedi dilyn olion traed ei deulu wrth chwarae i Gymru mewn nifer o grwpiau oedran ieuenctid, gan gynnwys ennill ei gap cyntaf dros y tîm dan-17 pan oedd ond yn bymtheg.

Fe yw’r pedwerydd aelod o’i deulu i chwarae dros ei wlad yn dilyn ei daid John Charles, ei hen ewythr a brawd John, Mel, a’i ewythr Jeremy.

Roedd John Charles yn un o gewri pêl-droed Cymru ac yn cael ei ystyried fel un o chwaraewyr gorau’r wlad erioed, ac roedd yn aelod o’r tîm a chwaraeodd yng Nghwpan y Byd yn 1958.

Wedi’i eni yn Abertawe, aeth ymlaen i ennill 38 o gapiau a sgorio 15 gôl dros ei wlad, a chwarae i glybiau megis Leeds, Juventus, Roma, Caerdydd a Henffordd. Bu farw yn 2004 yn 72 oed.

Cafodd lysenw fel ‘Y Cawr Addfwyn’ wrth chwarae i Juventus, ac yn 1997 fe’i dewiswyd gan y cefnogwyr fel y tramorwr gorau erioed i chwarae dros y clwb.