Gareth Bale
Mae clwb pêl droed Real Madrid wedi cadarnhau bod Gareth Bale yn dioddef o anaf i gyhyr yn ei goes ac nad ydyn nhw’n siŵr pryd y bydd yn dychwelyd i’r cae.

Mae’r Cymro, a gafodd ei werthu i’r tîm gan Tottenham Hotspurs am £85m, wedi methu gem gynghrair yn erbyn Getafe ar 22 Medi ar ôl tynnu allan o’r garfan funudau cyn i’r gêm gychwyn oherwydd ei anaf. Roedd eisoes wedi cael ei adael allan o’r gêm bencampwriaeth yn erbyn CP Copenhagen nos Fercher.

Dywed Real Madrid ar ei wefan bod yr asgellwr wedi cael diagnosis o anaf i gyhyr yn ei goes chwith a bod yn rhaid aros i weld sut y mae’r cyflwr yn datblygu.

Mae’r newydd hefyd yn ergyd i reolwr Cymru Chris Coleman a fydd yn cyhoeddi ei garfan yfory.