Fydd Giggs yn cyrraedd carreg filltir arall heno?
Bydd Ryan Giggs yn torri’r record am y chwaraewr sydd wedi chwarae’r nifer fwyaf o gemau yng Nghynghrair y Pencampwyr heno os yw’n dod i’r maes.

Mae Man United wedi teithio draw i’r Wcráin i herio Shakhtar Donetsk, ac os caiff Giggs chwarae dyma fydd gêm rhif 145 iddo yn y gystadleuaeth.

Ar hyn o bryd, mae’n gyfartal ag eicon Real Madrid, Raul, sydd hefyd ar 144 gêm. Y chwaraewr agosaf iddo sy’n dal i chwarae yn y gystadleuaeth yw Xavi o Barcelona, ar 136.

“Ddim hyd yn oed wedi sylwi!”

Pan ddywedwyd wrtho ei fod ar drothwy’r record, dywedodd Giggs wrth wefan y clwb nad oedd yn ymwybodol o’r gamp.

“Wir? Waw, ‘do ni ddim yn gwybod hynny,” meddai. “Mae’n gystadleuaeth grêt a dwi ‘di bod yn ddigon ffodus i’w hennill hi ddwywaith a chwarae mewn digon o gemau cofiadwy.”

“Mae Raul fyny yno efo’r goreuon. Os dwi’n ei basio fo fe fyddai’n teimlo balchder mawr.”

Mae Giggs, sy’n troi’n 40 fis nesaf, eisoes wedi chwarae dros 900 o gemau i’w glwb.

10 uchaf ymddangosiadau Cynghrair y Pencampwyr

Ryan Giggs 144
Raul 144
Paolo Maldini 140
Xavi 136
Clarence Seedorf 131
Paul Scholes 130
Iker Casillas 130
Roberto Carlos 128
Carles Puyol 118
Andriy Shevchenko 116

Aaron Ramsey yw’r Cymro nesaf ar y rhestr gyda 30 o ymddangosiadau hyd yn hyn.