Joe Calzaghe
Mae’r cyn bencampwr bocsio Joe Calzaghe, 41, wedi dweud ei fod wedi cael sawl cynnig i ddychwelyd i’r sgwar – er ei fod wedi ymddeol ers pedair blynedd.
Dywedodd y cyn bencampwr pwysau canol ac is-drwm y byd ei fod wedi derbyn galwad ffôn gan hyfforddwr y pencampwr pwysau canol WBA presennol, yr Americanwr Andre Ward.
Dywedodd ar raglen Sports Wales, sydd i’w darlledu ddydd Gwener ar BBC 2, bod Ward wedi gofyn iddo ddychwelyd i’r gamp ond dywed Calzaghe nad oes ganddo fwriad i ddychwelyd i’r sgwar.
Roedd Calzaghe wedi ymddeol ym mis Chwefror 2009 ar ôl ei fuddugoliaeth yn erbyn Roy Jones yn Efrog Newydd dri mis ynghynt.
Fe bwysleisiodd Calzaghe na fyddai’n dychwelyd i’r sgwar gan fod ei yrfa wedi gorffen ar ei orau.
Dywedodd: “Os fyswn i wedi colli fy ffeit olaf, fyswn i wedi bocsio eto? Wrth gwrs mi fyswn i. Mi fysa’n rhaid i mi ddial.
“Ond pwy sydd yn ymddeol ar y termau yna?” ychwanegodd.
“Mi wnes i bob dim o’n i eisiau ei wneud. Cefais amser gwych, profiadau anhygoel. Fe roddodd y math o fywyd i mi na fyswn i wedi ei gael fel arall.”