Dylid cyfyngu aelodaeth o Gyngor Cymdeithas Pêl-droed Cymru i bobol sydd o dan 70 oed erbyn 2016, yn ôl adolygiad i Reolaeth o Bêl-droed Cymru gafodd ei gyhoeddi brynhawn ddoe.
Erbyn 2020, roedd yr adolygiad yn awgrymu y dylid ei ostwng i 65.
Mae’r argymhelliad yn un o 88 sydd yn cael eu hamlinellu yn yr adolygiad, a gafodd ei gomisiynu gan y Gymdeithas Bêl-droed i wella strwythurau rheoli’r gêm yng Nghymru.
Mae’r adolygiad hefyd yn argymell sefydlu bwrdd gweithredol er mwyn arwain y Gymdeithas ar bolisi, strategaeth a rheoli’r busnes.
Bydd angen i Gyngor Cymdeithas Bêl-droed Cymru gytuno â’r argymhellion cyn y cânt eu mabwysiadu.
Pum aelod o’r Cyngor oedd ar y panel adolygu, sef Trefor Lloyd Hughes, David Griffiths, Chris Whitley, John Phillips, a Steve Williams.
Aelodau’n cysgu mewn cyfarfodydd
Yn y dystiolaeth a gasglwyd ar gyfer yr adolygiad, fe gyfaddefodd 18 o 25 aelod y Cyngor fod angen newid i strwythurau a phrosesau’r Gymdeithas.
Cafodd pryderon hefyd eu codi fod rhai aelodau’n disgyn i gysgu mewn cyfarfodydd.
Roedd rhai o’r aelodau hefyd wedi mynegi mewn cyfweliadau ar gyfer yr adolygiad fod hunan-ddiddordeb, patriarchaeth, ac ego yn parhau i fod yn ffactorau amlwg.
Ddim yn gynrychioladol
Mae’r adolygiad, a gafodd ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, yn cyfaddef nad yw Cyngor y Gymdeithas yn gynrychioladol o bêl-droed Cymru ar hyn o bryd.
Roedd galw am foderneiddio strwythurau rheoli’r Gymdeithas, gan gynnwys rhoi rôl a swyddogaeth glir i aelodau pob Bwrdd, Pwyllgor a Phanel.
Dylai tri Bwrdd newydd gael eu sefydlu’n canolbwyntio ar y Gêm Gymunedol, y Gêm Genedlaethol, a’r Gêm Ryngwladol, i gymryd lle’r chwe phwyllgor sefydlog sydd gan y Gymdeithas eisoes.
Roedd cydnabyddiaeth hefyd yn yr adolygiad fod angen gwneud gwaith y Gymdeithas yn fwy tryloyw, gan gynnwys cyhoeddi cofnodion o gyfarfodydd, cynigion a phleidleisiau.
Mae modd darllen yr adroddiad llawn yma.