Jack Collison
Mae chwaraewr canol cae Cymru Jack Collison wedi ymuno â Bournemouth ar fenthyg am fis o West Ham, yn ôl adroddiadau yn y wasg.
Nid yw’r un o’r clybiau wedi cadarnhau’r newyddion yn swyddogol eto, ond mae’r Daily Mail yn honni y gall Collison fod ar gael i wynebu Leeds heno os bydd y gwaith papur yn cael ei brosesu mewn pryd.
Dim ond tair gwaith mae Collison wedi chwarae dros West Ham y tymor hwn, gan gynnwys dwy gêm yng Nghwpan Capital One.
Mae wedi dioddef nifer o anafiadau i’w ben-gliniau yn y gorffennol, ac o bosib bydd y cyfnod ar fenthyg yn gyfle iddo wella’i ffitrwydd.
Gobeithio cael lle nôl yn y tîm
Dim ond yn ddiweddar y mynegodd Collison rwystredigaeth wrth wefan y clwb nad oedd yn cael chwarae digon i West Ham ar hyn o bryd.
“Mae wedi bod yn ddechrau rhwystredig i’r tymor yn bersonol,” meddai ar ôl chwarae ei ran wrth drechu Caerdydd 3-2 yng Nghwpan Capital One gan greu’r gôl fuddugol.
“Dwi’n defnyddio’r Gwpan fel cyfle i fynd allan ar y cae a cheisio ymladd am le yn y tîm. Dwi’n gweithio’n galed wrth ymarfer ac yn gobeithio rhoi penbleth i’r rheolwr.”
Pedair gêm yn unig fyddai Collison ar gael i chwarae i Bournemouth, gyda dwy gêm ryngwladol gan Gymru yn erbyn Macedonia a Gwlad Belg yn cwympo yn ystod y cyfnod hwnnw.