Aldershot 2–0 Wrecsam

Mae Wrecsam yn aros tua gwaelodion Uwch Gynghrair Skrill wedi iddynt golli oddi cartref ar y Recreation Ground yn Aldershot ddydd Sadwrn.

Sgoriodd y tîm cartref ddwywaith yn yr hanner awr olaf i yrru Andy Morrell a’i dîm adref yn waglaw.

Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe fanteisiodd Mark Molesley ar lithriad Jay Harris i roi’r tîm cartref ar y blaen ar yr awr.

Cafodd Andy Bishop gyfle da i unioni pethau cyn i Jordan Roberts ddyblu mantais Aldershot gyda deg munud yn weddill, a hynny wedi ychydig dros ddeg munud ar y cae fel eilydd.

Roedd hwn yn ganlyniad siomedig i’r Cymry yn dilyn chwe phwynt yn eu dwy gêm ddiwethaf ac mae’r canlyniad yn eu cadw yn yr unfed safle ar ddeg yn nhabl y Gyngres.

.

Aldershot

Tîm: Morris, Goodman, Webster, Barker, Stanley, Rowlands, Oyeleke, Molesley, Young (Roberts 67′), Williams, Paterson (Gibbs 90′)

Goliau: Molesley 61’, Roberts 80’

.

Wrecsam

Tîm: Mayebi, Ashton, Tomassen, Ntame, Artell, Clarke, Harris, Hunt (Carrington 86′), Theo Bailey-Jones (Cieslewicz 53′), Bishop, Ormerod (Ogleby 66′)

Cerdyn Melyn: Ntame 50’

.

Torf: 1,915