Caerwysg 0–2 Casnewydd
Cododd Casnewydd i hanner uchaf tabl yr Ail Adran gyda buddugoliaeth yn erbyn Caerwysg oddi cartref ym Mharc St James brynhawn Sadwrn.
Sgoriodd Conor Washington yn yr hanner cyntaf i roi’r ymwelwyr o Gymru ar y blaen ac ychwanegodd Harry Worley ail wedi’r egwyl i sicrhau’r tri phwynt i dîm Justin Edinburgh.
Daeth cyfle i Washington agor y sgorio o dafliad hir hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf a wnaeth y blaenwr ddim camgymeriad.
Cyfle Washington i greu oedd hi yn yr ail hanner wrth i Worley sgorio’r ail ugain munud o’r diwedd.
Cafodd y tîm cartref sawl cyfle wedi hynny ond daliodd Casnewydd eu gafael ar y tri phwynt – tri phwynt sydd yn eu codi i’r unfed safle ar ddeg yn nhabl yr Ail Adran.
.
Caerwysg
Tîm: Krysiak, Woodman, Bennett, Baldwin, Coles, Sercombe, Oakley, Davies (Moore-Taylor 72′), Wheeler (Keohane 63′), Gow (Reid 72′), O’Flynn
Cerdyn Melyn: Oakley 59’
.
Casnewydd
Tîm: Pidgeley, Pipe, Yakubu, Worley, Hughes, Chapman, Willmott (Naylor 70′), Jones (James 46′), Flynn, Zebroski (Crow 77′), Washington
Goliau: Washington 23’, Worley 70’
Cardiau Melyn: Worley 12’, Chapman 39’, Willmott 44’
.
Torf: 4,614