Mae’n bosib y bydd Cymru ymysg y gwledydd fydd yn cynnal gemau pencampwriaeth bêl-droed Ewro 2020.

Bydd 13 gwlad yn cynnal rowndiau o’r gystadleuaeth ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi datgan diddordeb mewn gwneud cais i Bwyllgor UEFA i fod yn rhan o’r bwrlwm.

13 gwlad

Cyhoeddodd Bwyllgor UEFA heddiw fod 32 gwlad wedi dangos diddordeb mewn bod yn un o’r 13 i gynnal  Ewro 2020. Mae Gweriniaeth Iwerddon, Yr Alban a Lloegr ymysg y rheiny.

Dywedodd Gymdeithas Pêl-droed Cymru y byddent yn “gwerthuso gyda’n partneriaid busnes a chyfreithiol, y posibilrwydd o wneud cais swyddogol pan fydd rhagor o fanylion yn cael eu rhyddhau gan UEFA.”

Bydd penderfyniad wedi ei wneud gan y Pwyllgor erbyn mis Medi 2014.

Fe lwyddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru i gynnal rowndiau terfynol UEFA i ferched dan 19 yng ngorllewin Cymru ac yn falch o fod yn cynnal yr ‘Super Cup’ UEFA yn Stadiwn Dinas Caerdydd yn Awst 2014.