Ar ôl noson fythgofiadwy yn Valencia neithiwr, mae rheolwr Abertawe, Michael Laudrup wedi dweud wrth ei chwaraewyr bod angen canolbwyntio ar y dasg nesaf sef herio Crystal Palace dydd Sul.
Cyn belled, mae Abertawe wedi cael dechreuad anodd i’w tymor yn yr Uwch Gynghrair. Ond gyda’r perfformaid addawol yn erbyn Lerpwl ddydd Llun diwethaf a buddugoliaeth yn erbyn Valencia neithiwr, mae Laudrup yn gwybod na all Abertawe orffwys a meddwl am yr hyn y maen nhw wedi ei gyflawni.
‘‘Mae’n bwysig i ni fod yn hapus gyda’r canlyniad. Ond mae gennym gêm bwysig ddydd Sul, rhaid i ni ganolbwyntio ar Crystal Palace yn awr,’’ meddai Laudrup.
Mae yna amheuon a fydd capten yr Elyrch, Ashley Williams, ar gael wedi iddo anafu ei bigwrn. Bu’n gwylio’r gêm yn Stadiwm Mestalla neithiwr o’r eisteddle. Ond nid oes yna unrhyw ofid am yr amddiffynnwr Angel Rangel, er i Laudrup eilyddio’r Sbaenwr yn gynnar yn ystod yr ail hanner.
‘‘Nid yw Angel wedi derbyn unrhyw anaf, roeddwn eisiau rhoi cyfle i Dwight Tiendalli gael chwarae am ychydig,’’ eglurodd Laudrup.