Alun Wyn Jones
Nos yfory fe fydd y Gweilch yn herio Caeredin yn y Liberty.

Mi fydd y clo Alun Wyn Jones yn dychwelyd i’r cae am y tro cyntaf ers iddo arwain y Llewod yn y gêm brawf olaf yn Awstralia.  Yn ogystal, bydd y gŵr o Ganada Jeff Hassler yn dechrau am y tro cyntaf dros y rhanbarth a bydd Aisea Natoga o Fiji ar y fainc ac yn ysu am gael camu i’r cae am y tro cyntaf yng nghrys y rhanbarth.

Ac ar ôl chwe mis allan o’r gêm, mae’r asgellwr ifanc, Eli Walker yn dychwelyd i’r Liberty wedi iddo wella o’i anaf i’w gefn.

‘‘Mae’r bechgyn wedi chwarae’n dda, ac mae’n dangos cryfder ein carfan,’’ meddai Richard Hibbard, Bachwr y Gweilch.

‘‘Ar ôl dwy gêm anodd i ffwrdd yn erbyn Leinster a Treviso, mae’n braf cael bod nôl yn y Liberty.  Rydym wedi cael dechreuad anodd i’r tymor, ond mae’r perfformiadau wedi bod yn gadarnhaol,’’ meddai Steve Tandy, rheolwr y Gweilch.

Mi fydd y gêm yn fyw ar S4C.

Tîm y Gweilch

Olwyr – Richard Fussell, Jeff Hassler, Andrew Bishop, Ashley Beck, Eli Walker, Dan Biggar a Tito Tebaldi.

Blaenwyr – Duncan Jones, Richard Hibbard, Adam Jones, Alun Wyn Jones (Capten), Ian Evans, Tom Smith, Sam Lewis a Morgan Allen.

Eilyddion – Scott Baldwin, Ryan Bevington, Joe Rees, Tyler Ardron, Justin Tipuric, Tom Grabham, Matthew Morgan a Aisea Natoga.