Angel Rangel (Ronnie Macdonald CCA 2.0)
“Allwn i ddim bod yn falchach” – sylw Angel Rangel ar ôl iddo arwain Abertawe i fuddugoliaeth o 3-0 yn Valencia yng nghystadleuaeth Europa.

Y Catalaniad oedd capten yr Elyrch ar gyfer y gêm yn absenoldeb Ashley Williams a Leon Britton ac roedd yn fater o dalu pwyth personol hefyd.

Wrth chwarae yn Sbaen, doedd y cefnwr ddim wedi codi’n uwch na’r drydedd adran ac roedd wrth ei fodd yn mynd yn ôl i’r gwledydd Catalanaidd gyda thîm o’r Uwch Gynghrair i guro un o glybiau gorau’r wlad.

‘Anhygoel’

“Mae’n anhygoel,” meddai ar wefan Abertawe. “Dw i ddim yn credu bod neb wedi disgwyl beth ddigwyddodd ar y cae.

“Dyma’r tro cynta’ erioed i fi fod yn gapten. Roedd y tîm i gyd wedi rhoi perfformiad gwych.

“Roedd 50 o aelodau fy nheulu yn y dorf. Dw i’n byw o fewn awr i Valencia.”