Abertawe 2–2 Lerpwl

Cafwyd gêm dda iawn ar y Liberty nos Lun wrth i Lerpwl ymweld ag Abertawe yn yr Uwch Gynghrair.

Gwelwyd pedair gôl mewn gêm gyffrous a chwaraeodd Jonjo Shelvey ran ym mhob un, ond yn anffodus i’r Elyrch, helpu ei gyn glwb, Lerpwl, i rwydo a wnaeth ar ddau achlysur!

Sgoriodd Shelvey i’r tîm cartref wedi dim ond munud a hanner. Saethodd y chwaraewr canol cae heibio i Simon Mignolet yn y gôl i Lerpwl ar y trydydd cynnig.

Dau funud yn unig a barodd y fantais serch hynny cyn i Shelvey gyflwyno gôl ar blât i Daniel Sturridge gyda phas wan yn ôl at ei gôl-geidwad, Michel Vorm.

Cafodd y ddau dîm gyfleoedd i fynd ar y blaen wedi hynny ond gwnaeth Mignolet yn dda i atal Wilferd Bony yn un pen cyn i Vorm arbed peniad Sturridge yn y pen arall yn dilyn gwaith da Victor Moses.

Moses ei hun a gafodd y gôl nesaf yn y diwedd yn dilyn camgymeriad gwael arall gan Shelvey. Cyflwynodd y bêl yn syth i asgellwr Lerpwl a sgoriodd yntau gydag ergyd dda o ochr y cwrt cosbi yn ei gêm gyntaf dros ei glwb newydd.

Bu bron i Bony unioni’n syth wedyn ond cafodd ei atal gan dacl wych Martin Skertel yn y cwrt chwech.

Roedd yr ail hanner yr un mor gyffrous â’r cyntaf a gwnaeth Vorm yn dda i arbed ergyd Andre Wisdom yn gynnar wedi’r egwyl.

Unionodd Abertawe ychydig funudau wedi’r awr gyda symudiad gorau’r gêm. Daeth pas hir Leon Britton o hyd i rediad deallus Shelvey a gwnaeth yntau’n iawn am ei gamgymeriadau cynharach trwy benio’r bêl yn berffaith i lwybr Miguel Michu. Gwnaeth y Sbaenwr y gweddill ac roedd yr Elyrch yn gyfartal.

Dim ond un tîm oedd yn ymddangos yn debygol o’i hennill hi wedi hynny gyda’r eilyddion, Jonathan De Guzman ac Alejandro Pozuelo’n gwneud argraff. Ond er iddynt reoli’r meddiant yn yr hanner awr olaf, cic rydd De Guzman yn y munudau olaf oedd yr agosaf a ddaeth Abertawe at sgorio. Arbedodd Mignolet honno a daliodd Lerpwl eu gafael ar eu pwynt.

Mae’r canlyniad yn codi Abertawe o’r tri isaf i’r trydydd safle ar ddeg yn y tabl.

.

Abertawe

Tîm: Vorm, Chico, Williams, Rangel, Davies, Britton, Shelvey, Michu, Dyer (De Guzman 46′), Routledge, Bony (Pozuelo 66′)

Goliau: Shelvey 2’, Michu 64’

Cerdyn Melyn: Williams 50’, Shelvey 56’

.

Lerpwl

Tîm: Mignolet, Jose Enrique, Sakho, Skrtel, Wisdom (Toure 69′), Gerrard, Coutinho (Aspas 55′), Moses (Sterling 81′), Henderson, Lucas, Sturridge

Goliau: Sturridge 4’, Moses 36’

Cardiau Melyn: Lucas 56’, Henderson 61’, Wisdom 66’

.

Torf: 20,752