Prestatyn 1–2 Gap Cei Connah

Dechreuodd y ddau dîm y gêm hon heb golli yn yr Uwch Gynghrair hyd yn hyn ond dim ond record Cei Connah sydd yn parhau wedi iddynt guro Prestatyn o 2-1 oddi cartref yng Ngerddi Bastion.

Daeth y goliau i gyd yn yr hanner cyntaf, dwy i Ryan Edwards i’r ymwelwyr ac un yn y canol rhyngddynt i Brestatyn ac Andy Parkinson.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd Prestatyn yn dda yn y pum munud cyntaf ond Cei Connah oedd y tîm gorau wedi hynny ac roeddynt ar y blaen yn haeddianol wedi ychydig dros chwarter awr o chwarae pan fanteisiodd Edwards ar gamgymeriad erchyll gan Dave Roberts. Ciciodd gôl-geidwad Prestatyn y bêl yn syth i lwybr Edwards ac anelodd yntau hi yn ôl dros Roberts ac i’r gôl.

I raddau, gwnaeth Roberts yn iawn am ei gam gyda dau arbediad da mewn dau funud i atal Ricky Evans ddwywaith hanner ffordd trwy’r hanner, i ddechrau o gic rydd gelfydd ac yna o foli daclus.

Roedd Prestatyn yn gyfartal ychydig wedi hanner awr o chwarae ac roedd hon yn gôl fach dda. Daeth croesiad hir Neil Gibson o hyd i Lee Hunt wrth y postyn pellaf a rhoddodd yntau’r bêl yn ôl ar draws ceg y gôl i alluogi Parkinson i rwydo.

Ond roedd Cei Connah yn ôl ar y blaen o fewn dau funud diolch i ail gôl y chwaraewr canol cae ifanc, Edwards. Dechreuodd y symudiad yn ei hanner ei hun cyn rhedeg yn rhydd un-ar-un yn erbyn Roberts a llwyddodd i rwydo er gwaethaf tacl flêr y gôl-geidwad arno.

Roedd y tîm cartref yn meddwl eu bod wedi unioni eto yn eiliadau olaf yr hanner pan sodlodd Michael Parker y bêl i gefn y rhwyd, ond penderfynwyd ei fod yn camsefyll.

Ail Hanner

Roedd Prestatyn fymryn yn well yn yr ail gyfnod ond gwastraffodd Hunt gyfle da i unioni yn y munudau cynnar pan saethodd filltiroedd dros y trawst o ddeg llath.

Daeth cyfle i Parkinson hefyd chwarter awr o’r diwedd ond gwnaeth gôl-geidwad Gap, Terry McCormick, yn dda i ddod allan i’w atal.

Fe wnaeth y bêl daro cefn rhwyd y Nomadiaid yn fuan wedi hynny ond chafodd peniad gwych Hunt ddim mo’i ganiatáu oherwydd camsefyll.

Gwyrodd ergyd Jack Lewis fodfeddi heibio postyn Cei Connah hefyd yn y munudau olaf hefyd ond daliodd yr ymwelwyr eu gafael i sicrhau buddugoliaeth dda.

Ymateb

Mark McGregor, chwaraewr reolwr Gap Cei Connah:

“Tydi hi ddim yn hawdd dod yma, roeddem ni braidd yn ffodus yn yr ail hanner efallai ond fe wnaethom yn wych ar y cyfan ac rydym wrth ein boddau efo’r tri phwynt.”

“Mae Medi yn fis anodd i ni a dwi ddim yn poeni am aros yn ddi guro, dim ond eisiau casglu cyn gymaint o bwyntiau ag y gallwn ni.”

Neil Gibson, chwaraewr reolwr Prestatyn:

“Mae ganddyn nhw bob hawl dod yma a rhoi dynion y tu ôl i’r bêl a’r sialens i ni wedyn yw torri trwy’r amddiffyn. Dwi’n meddwl i ni greu digon o gyfleoedd heddiw ond wnaethom ni ddim manteisio arnynt.”

Mae’r canlyniad yn codi Cei Connah i’r pedwerydd safle yn nhabl Uwch Gynghrair Cymru, bwynt yn unig y tu ôl i Brestatyn sydd yn disgyn i’r trydydd safle.

.

Prestatyn

Tîm: Roberts, Davies, Hayes, Hessey, Lewis, Parker, Stones (Wilson 46’), Stephens (Murray 78’), Gibson, Parkinson, Hunt

Gôl: Parkinson 33’

Cardiau Melyn: Roberts 36’, Hessey 42’

.

Cei Connah

Tîm: McCormick, Rowlands, McGregor, Robinson, Forde, Jones, Desormeaux, Smyth, Edwards, Everall (Hayes 65’), Evans (Dobbins 89’)

Goliau: Edwards 17’, 35’

Cardiau Melyn: Evans 19’, Jones 39’

.

Torf: 257