Casnewydd 1–1 Mansfield

Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn wrth i Gasnewydd aros yn hanner uchaf yr Ail Adran gyda phwynt yn erbyn Mansfield.

Rhoddodd Chris Zebroski y tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Sam Clucas unioni i Mansfield hanner ffordd trwy’r ail hanner. Gorffennodd y ddau dîm y gêm gyda deg dyn hefyd yn dilyn cardiau coch i Lee Minshull a Matt Rhead.

Peniodd Zebroski Gasnewydd ar y blaen wedi hanner awr o gic gornel Adam Chapman ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.

Ond pencampwyr y Gyngres y tymor diwethaf, Mansfield, a gafodd y cyfleoedd gorau ar y cyfan ac roeddynt yn gyfartal pan sgoriodd Clucas o gic gornel Ben Hutchinson yn yr ail gyfnod.

A dyna hi o ran y sgorio ond roedd digon o gyffro ar ôl wrth i Minshull i Gasnewydd a Rhead i Mansfield ill dau dderbyn cardiau coch yn y chwarter awr olaf. Anfonwyd Minshull oddi ar y cae yn syth am ddefnyddio’i ben elin yn erbyn Martin Riley ac fe dderbyniodd Rhead ail gerdyn melyn ddeg munud o’r diwedd ar ôl derbyn y cyntaf toc cyn yr awr.

Mae’r canlyniad yn cadw Casnewydd a Mansfield yn gyfartal ar naw pwynt, Casnewydd yn nawfed yn y tabl a Mansfield yn ddegfed.

.

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, Pipe, Hughes, Jackson, Naylor, Chapman (Burge 84′), Minshull, Willmott (Flynn 76′), Worley, Zebroski, Jolley (Washington 69′)

Gôl: Zebroski 30’

Cardiau Melyn: Jolley 21’, Jackson 58’

Cerdyn Coch: Minshull 76’

.

Mansfield

Tîm: Marriott, Sutton, Dempster, Riley, Jennings, Clucas, Beevers (Palmer 64′), Clements, McGuire, Rhead, Hutchinson (Meikle 74′)

Gôl: Clucas 67’

Cardiau Melyn: McGuire 7’, Rhead 59’, Dempster 71’, Riley 90’

Cerdyn Coch: Rhead 80’

.

Torf: 3,709