Nuneaton 2–0 Wrecsam
Parhau y mae dechrau siomedig Wrecsam i’r tymor yn Uwch Gynghrair Skrill wedi iddynt golli yn erbyn Nuneaton ar Liberty Way brynhawn Sadwrn.
O ystyried safleoedd y ddau dîm yn y tabl ar ddechrau’r gêm byddai gêm gyfartal wedi bod yn ganlyniad da oddi cartref i’r Dreigiau ond cipiodd Nuneaton y pwyntiau i gyd diolch i goliau hwyr Andy Brown a Louis Moult.
Di sgôr oedd hi am 75 munud cyn i Brown droi croesiad Danny Sleath i gefn y rhwyd i roi Nuneaton ar y blaen.
Bu bron i’r Dreigiau daro’n ôl serch hynny ond tarodd peniad Neil Ashton yn erbyn y postyn ddau funud o ddiwedd y naw deg.
Roedd yn rhaid i Wrecsam bwyso am gôl ac fe lwyddodd Nuneaton i fanteisio ar hynny i sgorio un arall eu hanain yn yr amser a ganiateir am anafiadau. Cafwyd gwaith da gan Adam Walker i greu’r cyfle i Moult a gwnaeth yntau’r gweddill.
Mae’r canlyniad yn codi Nuneaton i’r ail safle yn Uwch Gynghrair Skrill ond mae tymor trychinebus Wrecsam yn parhau wrth iddynt lithro i’r pedwerydd safle ar bymtheg.
.
Nuneaton
Tîm: Belshaw, Cowan, Dean, McNamee (Gordon 89′), Walker, Armson, Streete, Sleath, Moult, Brown, York (Taylor 90’)
Goliau: Brown 75’, Moult 90’
Cerdyn Melyn: Walker
.
Wrecsam
Tîm: Mayebi, Ashton, Tomassen, Clowes, Thornton (Morrell 78′), Clarke, Hunt, Evans, Anyinsah (Cieslewicz 15′), Bishop, Ormerod
.
Torf: 1,561