Andy Morrell
Wrecsam 0:2 Caer

Roedd hi’n brynhawn siomedig i dîm pêl-droed Wrecsam wrth iddyn nhw golli o ddwy gôl i ddim i Gaer.

Doedd dim sbarc o gwbwl yn perthyn i Wrecsam, a doedd dim golwg eu bod nhw am sgorio gôl. Mi wnaeth nifer o’u cefnogwyr adael cyn diwedd y gêm yn y Cae Ras.

Caer oedd y tîm cryfaf ac fe weithion nhw’n galed yn yr hanner cyntaf i dorri crib bechgyn Wrecsam.

Roedd ’na bryder cyn y gêm am ddiogelwch. Mae hen hanes i’r elyniaeth rhwng y ddau dîm, a dyma’r tro cyntaf iddyn nhw chwarae yn erbyn ei gilydd ers pedair blynedd. Ond ar ddiwedd y gêm, mi wnaeth Heddlu Gogledd Cymru drydar i ddiolch i’r cefnogwyr am fihafio ac yn dymuno’n dda iddyn nhw ar eu taith gartref.

Sgoriwyd goliau Caer gan Paul Linwood a Lewis Turner.