Cae Ras, Wrecsam
Mae mesurau diogelwch yn eu lle er mwyn ceisio atal unrhyw drafferthion yn y gêm bêl-droed rhwng Wrecsam a Chaerdydd heddiw.

Bydd y gêm yn dechrau am 1.00 o’r gloch y prynhawn. Does neb yn cael mynediad i’r stadiwm heb docyn ac mae ffans Caer wedi teithio i Stadiwm y Cae Ras mewn bysus arbennig.

Dyma’r tro cyntaf mewn pedair blynedd i’r ddau dîm wynebu ei gilydd.

Mae hofrennydd yr heddlu hefyd wedi bod yn cadw golwg ar bethau o’r awyr.