Mae S4C wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhoi sylw i rygbi ar bob llwyfan y tymor hwn – o Stadiwm y Mileniwm i gaeau ein colegau a’n hysgolion.

Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C, “O’r hogia’ proffesiynol ar y llwyfannau Rhyngwladol a Rhanbarthol, i glybiau Uwch Gynghrair y Principality ac i’r prentisiaid sy’n magu eu talent ar gaeau colegau ac ysgolion Cymru – mae rygbi Cymru’n cael ei adlewyrchu’n llawn ar S4C.”

Mae’r gemau a fydd yn cael eu darlledu yn cynnwys Gemau Rhyngwladol Tymor yr Hydref; Pencampwriaeth y Chwe Gwlad; Cynghrair y RaboDirect Pro12; Cwpan Heineken; Uwch Gynghrair Principality; Rygbi’r Colegau ac Ysgolion.

Gemau’r Hydref a’r Chwe Gwlad

Darlledir holl gemau’r hydref a’r Chwe Gwlad yn fyw ar Y Clwb Rygbi Rhyngwladol ar S4C gyda thîm chwaraeon BBC Cymru wrth y llyw.

RaboDirect Pro 12

Yng nghynghrair y RaboDirect Pro 12, bydd Y Clwb Rygbi yn dilyn y Gweilch, Gleision, Dreigiau a’r Scarlets o’r dechrau i’r diwedd, gyda gêm fyw bob penwythnos ar S4C. Bydd S4C hefyd yn mynd i’r Eidal ar gyfer gêm fyw gynta’r Sianel, ar nos Sadwrn 7 Medi (cic gyntaf 6.30), rhwng Treviso a’r Gweilch. Gareth Roberts fydd yn cyflwyno gyda Huw Llywelyn Davies a Gwyn Jones yn sylwebu a Cennydd Davies yn adrodd o ochr y cae.

Yr wythnos ganlynol bydd y gem ar Barc y Scarlets rhwng Scarlets v Treviso ar 14 Medi yn cael ei darlledu, ac yna Gweilch v Caeredin ar 21 Medi. Ac wrth i’r pedwar rhanbarth fentro i Ewrop bydd y gyfres Cwpan Heineken (sy’n gynhyrchiad gan gwmni SMS) yn cynnig uchafbwyntiau pob un o’u gemau gydol y daith.

Y tu hwnt i’r rhanbarthau, mae S4C yn dweud eu bod nhw’n falch o gyhoeddi partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru sy’n golygu y bydd rhai o gemau tymor Uwch Gynghrair Principality yn cael eu darlledu’n fyw ar y Sianel. Y gêm gyntaf fydd Llanymddyfri v Caerdydd ar ddydd Sul 15 Medi (cic gyntaf 2.30).

Mae tair gêm Principality arall wedi eu cadarnhau: Abertawe v Castell-nedd, 22 Medi; Pontypridd v Casnewydd, 29 Medi; Bedwas v Llanelli, 6 Hydref.

A bydd cyngreiriau rygbi’r Colegau a’r Ysgolion yn cael sylw hefyd drwy gydol y tymor. Dyma ble mae sêr y dyfodol yn dysgu eu crefft ac mae’n bosib iawn bod sêr rhyngwladol y dyfodol yn eu plith. Bydd gemau yn cael eu dangos yn fyw ar wefan S4C, gyda chyfle arall i’w gwylio yn llawn ar y Sianel gyda’r nos.

Bydd y gêm gyntaf o blith cynghrair y Colegau yn cael ei dangos yn fyw ar-lein ar 25 Medi.