Chris Coleman
Mae Chris Coleman wedi mynnu nad  trosglwyddiad posib Gareth Bale i Real Madrid yw’r rheswm pam na fydd yn chwarae yn erbyn Iwerddon nos fory.

Yn ôl rheolwr Cymru, nid yw Bale wedi gwneud llawer o sesiynau ymarfer gyda’i glwb, Tottenham Hotspur, dros yr haf a doedd dim disgwyl iddo fod yn iachach ar gyfer y gêm.

Roedd  Bale wedi ymarfer ar wahân i’r tîm ddoe, o dan gysgod nifer o newyddiadurwyr o Sbaen yn dilyn diddordeb Real Madrid yn yr ymosodwr.

“Mi fuasai’n beryglus i adael iddo chwarae,” meddai Chris Coleman. “Mae gennym ni berthynas dda gyda Tottenham ac mae ein tîm meddygol ni’n cyd-weithio gyda’u rhai nhw.

“Ar y  diwrnod y cyrhaeddodd naethon ni benderfynu ei fod yn ormod o risg iddo chwarae.

“Petai  ganddo’r cyfle i chwarae, mi fysa’n chwarae. Nid oedd y trosglwyddiad yng nghefn fy meddwl dros ei ddewis achos fy swydd i ydi rheoli Cymru ac ennill gemau.”