Dai Greene
Mae’r rhedwyr Dai Greene a Rhys Williams wedi bod yn aflwyddiannus yn eu hymdrechion i gyrraedd ffeinal Pencampwriaeth Athletau’r Byd ym Moscow.

Roedd y ddau Gymro yn brwydro i sicrhau lle yn y rownd derfynol wrth iddyn nhw gystadlu yn y ras 400 metr dros y clwydi yn Stadiwm Luznhiki.

Nid oedd y canlyniad yn annisgwyl i Dai Greene oherwydd roedd pryderon ynglŷn â chyflwr ei iechyd.

Daeth Dai Greene yn bumed gydag amser o 49.25 a daeth Rhys Williams yn bedwerydd gydag amser o 49.29 – ond nid oedd yn ddigon i gyrraedd y rownd derfynol.

Williams oedd y cyntaf o’r ddau i redeg yn yr ail ras o dair.

Dim ond y ddau gyntaf ymhob ras ynghyd â’r ddau gollwr cyflymaf oedd yn ennill eu lle yn y rownd derfynol.

Roedd Dai Green, 27, o Lanelli, wedi bod yn brwydro anafiadau a salwch yn ystod y flwyddyn ac roedd wedi bod yn sâl dros y penwythnos.

Wrth siarad cyn y ras, dywedodd Dai Greene: “Gan groesi bysedd, rwy’n gobeithio am berfformiad gwell. Os rwyf yn teimlo fel hyn nawr does gennyf ddim siawns o gael medal.”

Enillodd Dai Greene y ras y 2011 ac roedd yn brwydro i ddal ei afael ar y fedal aur, roedd hefyd yn bedwerydd yn y gystadleuaeth yng Ngemau Olympaidd Llundain y llynedd.