Aaron Ramsey
Mae tîm pêl droed Cymru wedi dioddef ergyd ddwbl ar ôl i Aaron Ramsey a James Collins dynnu’n ôl o’r tîm i chwarae Gweriniaeth Iwerddon nos Fercher.

Mae canolwr Arsenal, Aaron Ramsey, wedi bod yn dioddef ag anaf i’w ffêr tra bod James Collins, sy’n chwarae i West Ham, ag anaf i’w ben-glin.

Mae asgellwr Tottenham, Gareth Bale, yn parhau i fod yn y tîm er yr holl amheuaeth ynglŷn â’i ddyfodol, gyda sôn fod Real Madrid am gynnig swm sydd am dorri record byd i sicrhau ei drosglwyddiad  i’r tîm.

Disgwylir i Gareth Bale gymryd rhan mewn sesiwn ymarfer gyda Chymru brynhawn ‘ma er nad yw wedi chwarae â Tottenham ers mis.

Bydd Jazz Richards o Abertawe ac Andrew Crofts, sy’n chwarae i Brighton, yn cymryd lle Aaron Ramsey a James Collins, gyda Chymdeithas Bêl Droed Cymru yn cadarnhau eu presenoldeb yn y tîm.