Ashley Williams
Roedd gêm gyfartal galed oddi cartref yng Nghynghrair yr Europa yn ffordd dda o baratoi ar gyfer gêm gynta’r Elyrch yn yr Uwch Gynghrair yn erbyn Man U, medd eu capten Ashley Williams.

Ar y blaen o bedair gôl i ddim cyn yr ail gymal yn Sweden, fe gafodd Abertawe well gêm gan Malmo neithiwr.

“Roedd yn noson fuddiol i ni, yn enwedig wrth i ni baratoi ar gyfer y gêm yn erbyn Manchester United,” meddai Ashley Williams.

“Roedd chwarae ar eu cae nhw yn anoddach na’r wythnos diwetha’ [yn y cymal cyntaf].”

Bydd tymor yr Elyrch yn yr Uwch Gynghrair yn cychwyn gyda bang ar Awst 17 wrth i Man U ymweld â’r Liberty.