Justin Edinburgh - y rheolwr yn dathlu eto (o wefan y clwb)
Mae Casnewydd yn dathlu eu buddugoliaeth fawr gynta’ ers dychwelyd i brif gynghrair Lloegr.

Fe lwyddon nhw i guro Brighton o’r Bencampwriaeth (ail lefel y gynghrair) yng nghwpan y Gynghrair, Cwpan Capital One, a hynny oddi cartre’.

Er eu bod ar ei hôl hi ar ddiwedd yr ail hanner, fe fanteision nhw ar y ffaith fod un o chwaraewyr Brighton wedi cael ei anfon o’r maes.

Ar ôl i Danny Crow sgorio i’r Cymry, fe aeth y gêm i amser ychwanegol, gyda Crow yn sgorio ail a Conor Washington yn setlo’r gêm.

Y tro cynta’ ers chwarter canrif

Dim ond eleni y daeth Casnewydd yn ôl i’r gynghrair ar ôl mwy nag ugain mlynedd allan a blynyddoedd o drafferthion.

Y tro diwetha’ iddyn nhw chwarae yng Nghwpan y Cynghrair oedd 1987 a’r farn yw fod Brighton yn un o dimau gorau’r Bencampwriaeth.

Ond roedd yna un darn o newyddion drwg wrth i’r amddiffynnwr, Byron Anthony, orfod gadael y maes ar ôl torri ei goes.