Ble mae calon Gareth Bale
Mae un o gyfarwyddwyr Spurs wedi cydnabod na allan nhw orfodi’r Cymro, Gareth Bale, i chwarae iddyn nhw.

Yn ôl Syr Keith Mills, os yw chwaraewr wedi penderfynu mynd i glwb arall mae bron yn amhosib ei rwystro.

Mae’r sïon yn dal i gynyddu y bydd Bale yn gadael Spurs am Real Madrid gan dorri record trosglwyddo’r byd, gyda phris o fwy nag £80 miliwn.

Er bod rheolwr y clwb o Lundain, Andre Villas-Boas, yn mynnu nad yw chwaraewr canol cae Cymru ar werth, fe gyfaddefodd Keith Mills wrth bapur Llundain, yr Evening Standard, y gallai fynd.

‘Eisiau iddo aros’

“R’yn ni eisiau i Bale aros,” meddai Keith Mills. “Ond os yw chwaraewr yn despret i adael, mae’n anodd iawn ei orfodi i aros. Hyd yn oed os oes gyda fe gytundeb allwch chi ddim ei orfodi i chwarae i chi.”

Er gwaetha’i berfformiadau y llynedd, chafodd Bale ddim ei ddewis yn un o’r tri ar restr fer chwaraewyr gorau Ewrop.