Michu - sgoriwr y gol gynta
Mae Abertawe wedi cymryd cam anferth at gyrraedd rownd nesa’ Cynghrair Ewropa ar ôl curo Malmo o Sweden o 4-0.

Cyfnod o hanner awr o boptu i hanner amser oedd yr un allweddol, pan sgoriodd yr Elyrch dair gôl a bod yn lwcus i osgoi cic o’r smotyn.

Un o’r pethau mwya’ calonogol oedd perfformiad y chwaraewyr newydd – roedd yna ddwy gôl i’r ymosodwr newydd Bony, un i’r eilydd Alejandro Pozuelo a gêm ardderchog gan y chwaraewr canol cae Jonjo Shelvey.

Ond un o’r hen ffefrynnau a ddechreuodd bethau – fe fanteisiodd Miguel Michu ar lithriad gan un o amddiffynwyr Malmo a rhoi Abertawe ar y blaen ychydig cyn hanner amser.

‘Digon’ meddai Iwan Roberts

Er bod Malmo wedi dechrau’r ail hanner yn fywiog, aeth Abertawe ymhellach ar y blaen. Ar ôl i#r Swediaid wneud cais cry’ am gic o’r smotyn, fe aeth y bêl i ben arall y cae ac fe beniodd Bony groesiad da gan Routledge i’r rhwyd.

Roedd yna ail gôl i Bony o fewn ychydig funudau ar ôl i Michu daro’r postyn ac fe ddaeth y bedwaredd ar ôl i Pozuelo ddod i’r cae a manteisio ar bas gan Bony.

Yn ôl cyn chwaraewr Cymru, Iwan Roberts, ar Radio Cymru fe ddylai’r canlyniad fod yn ddigon i fynd ag Abertawe i’r rownd nesa’.