Abertawe yw’r ffefrynnau i ennill yn eu gêm gynta’ yng Nghynghrair Ewropa heno, meddai rheolwr eu gwrthwynebwyr.

Fe ddywedodd Rikard Norling o Malmo yn Sweden wrth gynhadledd i’r wasg neithiwr fod pawb yn disgwyl i’r Elyrch fynd ymlaen i’r rownd nesa’.

Ond mae Malmo hanner ffordd trwy eu tymor ac yn ail ym mhrif gynghrair Sweden ar hyn o bryd – dim ond saith gêm gyfeillgar sydd gan Abertawe o dan eu belt.

“Maen nhw’n ffefrynnau cry’,” meddai Norling. “Maen nhw’n chwarae yng nghynghrair gorau’r byd – fe orffennon nhw’n nawfed y tymor diwetha’ ac ennill un o’r cwpanau – ac maen nhw wedi ychwanegu rhagor o chwaraewyr da.”

Dyma’r tro cynta’ i Abertawe chwarae yn Ewrop ers mwy nag 20 mlynedd – mae’r gêm yn dechrau am chwarter i wyth yn Stadiwm Liberty heno.