Mae un o chwaraewyr Abertawe wedi mynegi syndod am fod yr amddiffynnwr, Steve Caulker, wedi symud at Gaerdydd.
Fe lwyddodd tîm y brifddinas i fachu Caulker am ychydig tros £8 miliwn er bod rhai’n credu y gallai chwarae i un o’r clybiau mawr.
Dyna farn Angel Rangel, cefnwr Abertawe, a fu’n chwarae gyda Caulker pan oedd ar fenthyg gyda’r Elyrch.
“Ac yntau’n chwaraewr rhyngwladol i Loegr ac yn chwarae i Spurs, â phob parch, fyddech chi’n disgwyl iddo fynd i glwb mawr.
“Fe allai chwarae i Arsenal neu dîm o’r fath. Mae wedi mynd at Gaerdydd am ryw reswm. Do’n i ddim yn disgwyl hyn, ond mae’n gwybod y bydd fwy na thebyg yn chwarae’n gyson, bob wythnos.”
Y farn gyffredinol yw y bydd Steve Caulker yn gaffaeliad anferth i Gaerdydd wrth iddyn nhw wynebu eu tymor cynta’ yn yr Uwch Gynghrair.