Gareth Bale
Mae rheolwr Real Madrid wedi cadarnhau bod y clwb yn trafod prynu’r Cymro Gareth Bale oddi ar Tottenham Hotspur.
“Mae’r clwb yn siarad ar hyn o bryd i gael ateb yn achos Bale, ond does dim newyddion yn y cyswllt hwnnw,” meddai Carlo Ancelotti, cyn i Real chwarae gêm gyfeillgar neithiwr.
Y disgwyl yw y bydd Real Madrid yn talu o leia’ £80 miliwn am chwaraewr canol cae Cymru ac efallai yn torri record trosglwyddo’r byd.
Er bod Cadeirydd Spurs, Daniel Levy, wedi mynnu na fyddai’n gwerthu’r chwaraewr 24 oed, roedd sylwebwyr yn sicr y byddai’n gorfod gwneud hynny yn y diwedd.
Mae Gareth Bale ei hun wedi ei gwneud hi’n amlwg y byddai’n hoffi symud i Madrid – elfen yn hynny oedd methiant Spurs i gyrraedd prif gystadleuaeth Ewrop eleni.