Mark Hughes
Fe fydd Stoke yn cyhoeddi’n swyddogol heddiw eu bod nhw wedi penodi Mark Hughes yn rheolwr.

Mae’n disodli ei gyd-Gymro, Tony Pulis, adawodd y clwb yr wythnos diwethaf ar ôl saith mlynedd wrth y llyw.

Ond mae Hughes eisoes yn wynebu talcen caled, ar ôl i gefnogwyr Stoke ddangos eu dicter am y penderfyniad i’w benodi.

Yn ôl adroddiadau, dydyn nhw ddim yn credu bod gan Hughes y gallu na’r profiad i arwain y clwb.

Ond mae’r clwb wedi dangos ffydd yng nghyn-reolwr Cymru, sydd wedi bod allan o waith ers cael ei ddiswyddo gan QPR fis Tachwedd diwethaf.

Treuliodd gyfnod hefyd yn rheoli Blackburn, gan lwyddo i gyrraedd Ewrop, ond methiant oedd ei gyfnod wrth lyw Manchester City a Fulham.

Fe fydd e’n cael ei gyflwyno’n swyddogol i’r wasg heddiw am 11 o’r gloch.