Abertawe 0–3 Fulham

Gorffennodd tymor cofiadwy Abertawe braidd yn siomedig brynhawn Sul wrth iddynt golli gartref yn erbyn Fulham ar ddiwrnod olaf y tymor.

Rhoddodd Alex Kacaniklic yr ymwelwyr ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Dimitar Berbatov ac Urby Emanuelson ychwanegu dwy gôl arall yn y chwarter awr olaf i sicrhau buddugoliaeth o 3-0.

Bu bron i Pablo Hernandez roi’r Elyrch ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf ond crafodd ei ergyd o ugain llath heibio’r postyn.

Ac o fewn munud roedd Kacaniklic wedi sgorio yn y pen arall yn dilyn symudiad gorau’r gêm gan yr ymwelwyr.

Bu bron i’r un chwaraewr ddyblu’r fantais ddeg munud yn ddiweddarach ond llwyddodd Michel Vorm i adlamu ei ergyd yn erbyn y postyn.

Cafodd Hernandez gyfle da i unioni pethau yn yr ail hanner ond ergydiodd yn syth at Mark Schwarzer yn y gôl i Fulham.

A bu rhaid i’r Elyrch dalu am hynny wrth i’r ymwelwyr sgorio dwy arall yn y munudau olaf. Aeth Berbatov â’r bêl heibio i Vorm cyn ei llithro i gôl wag i ddechrau, cyn i Emanuelson sgorio i rwyd wag hefyd wedi i Vorm arbed ergyd Kacaniklic.

Diweddglo siomedig i’r gêm ac i’r tymor i Abertawe felly ond blwyddyn i’w chofio i dîm Michael Laudrup wrth iddynt orffen yn nawfed yn yr Uwch Gynghrair a chipio Cwpan y Gynghrair.

.

Abertawe

Tîm: Vorm, Chico, Williams, Rangel, Davies (Taylor 81′), Britton, Michu, Pablo (Shechter 74′), Dyer, Routledge, De Guzman (Agustien 80′)

Cardiau Melyn: Pablo 48’, Michu 89’

.

Fulham

Tîm: Schwarzer, Riise, Senderos, Hangeland, Riether, Frimpong (Karagounis 67′), Duff (Emanuelson 73′), Kacaniklic, Enoh, Berbatov (Rodallega 87′), Ruiz

Goliau: Kacanihlic 22’, Berbatov 77’, Emanuelson 90’

Cerdyn Melyn: Riether 27’

.

Torf: 20,365