Woking 2–0 Wrecsam
Colli fu hanes Wrecsam yn erbyn Woking yn Stadiwm Kingfield brynhawn Sadwrn a hynny yn dilyn buddugoliaeth dda yn erbyn Mansfield nos Iau.
Rhoddodd y fuddugoliaeth honno lygedyn o obaith i’r Dreigiau ennill dyrchafiad uniongyrchol o Uwch Gynghrair y Blue Square, ond y gemau ail gyfle fydd hi bellach wedi i ddwy gôl mewn wyth munud gan Jayden Stockley gipio’r pwyntiau i Woking heddiw.
Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr, fe rwydodd Stockley’r gôl agoriadol ar yr awr pan anelodd yn gywir i’r gornel isaf o ochr y cwrt cosbi yn dilyn pas Lee Sawyer.
Ac roedd hi’n ddwy wyth munud yn ddiweddarach pan ddaeth Billy Knott o hyd i Stockley yn y cwrt chwech cyn i’r blaenwr ifanc rwydo ei ail ef ac ail ei dîm i ennill y gêm.
Mae Wrecsam yn aros yn drydydd er gwaethaf y canlyniad ond aros yn y safle hwnnw cyn y gemau ail gyfle fydd eu nod bellach, gyda Mansfield a Kidderminster ddeg ac un ar ddeg pwynt yn glir ar y brig.
.
Woking
Tîm: Putnins, Newton, Mike, McNerney, Parkinson, Ricketts (Simmonds 86′), Betsy, Sawyer, McCallum (Williams 83′), Knott (Nutter 77′), Stockley
Goliau: Stockley 60’, 68’
.
Wrecsam
Tîm: Maxwell, Wright, Riley (Ashton 63′), Walker, Harris, Keates (Thornton 55′), Clarke, Hunt, Wright, Ormerod (Little 55′), Adebola
Cerdyn Melyn: Little 73’
.
Torf: 1,518