Norwich 2–2 Abertawe
Cyfartal oedd hi rhwng yr Elyrch a’r Caneris ar Carrow Road brynhawn Sadwrn wrth i rediad Abertawe o golli tair yn olynol ddod i ben.
Rhoddodd Miguel Michu y Cymry ar y blaen cyn i goliau Robert Snodgrass a Michael Turner o boptu’r egwyl roi’r fantais i Norwich. Ond tarodd Abertawe yn ôl a sicrhaodd Luke Moore bwynt i’r ymwelwyr gyda gôl chwarter awr o’r diwedd.
Aeth Abertawe ar y blaen ddeg munud cyn yr egwyl gyda symudiad gorau’r gêm. Cyfunodd Chico Flores a Nathan Dyer yn dda cyn i Michu daro chwip o ergyd i’r gornel uchaf.
Roedd y tîm cartref yn gyfartal cyn hanner amser serch hynny pan beniodd Snodgrass i rwyd wag wedi i groesiad Elliott Bennett ddod o hyd iddo’n rhydd wrth y postyn pellaf.
Gôl ddigon tebyg a roddodd Norwich ar y blaen ar yr awr, croesiad hir arall gan Bennett, o gic rydd y tro hwn a Turner yn gwbl rydd i rwydo â’i droed wrth y postyn pellaf.
Ond brwydrodd y Cymry yn ôl yn ddewr ac unionodd Moore y sgôr chwarter awr o’r diwedd wedi i Angel Rangel benio’r bêl ar draws y cwrt chwech i’w lwybr.
A dylai’r pwynt fod wedi troi’n dri i dîm Michael Laudrup yn yr eiliadau olaf ond saethodd Michu gyfle euraidd filltiroedd dros y trawst.
Mae’r pwynt yn cadw Abertawe yn nawfed yn nhabl yr Uwch Gynghrair ond gall Fulham neidio drostynt gyda buddugoliaeth yn Newcastle ddydd Sul.
Ymateb
Michael Laudrup, rheolwr Abertawe:
“Roedd hi’n bwysig cael canlyniad cadarnhaol heddiw. Mae gennym bythefnos tan ein gêm nesaf nawr, gêm gartref yn erbyn Southampton – gêm y bydd rhaid i ni ei hennill os am orffen yn y deg uchaf.”
.
Norwich
Tîm: Bunn (Camp 15′), Martin, Bassong, Turner, Garrido, Johnson, Snodgrass, Howson (Tettey 81′), Hoolahan (Holt 80′), Bennett, Kamara
Goliau: Snodgrass 40’, Turner 60’
Cardiau Melyn: Snodgrass 28’, Johnson 30’, Turner 85’, Holt 86’, Tettey 90’
.
Abertawe
Tîm: Vorm, Chico, Williams, Tiendalli, Davies (Rangel 64′), Michu, Dyer (Lamah 75′), Routledge (Pablo 64′), De Guzman, Ki Sung-Yeung, Moore
Goliau: Michu 35’, Moore 75’
Cardiau Melyn: Davies 21’, Williams, De Guzman 89’
.
Torf: 26,372