Bangor 1–0 Y Seintiau Newydd
Sgoriodd Chris Jones unig gôl y gêm yn y pedwerydd munud o amser a ganiateir am anafiadau wrth i Fangor guro’r Seintiau Newydd yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru brynhawn Sadwrn.
Roedd hi’n dipyn y gêm ar y Belle Vue, Rhyl, ond bu rhaid aros tan yr eiliad olaf un am y gôl holl bwysig. Roedd y Seintiau i lawr i ddeg dyn erbyn hynny yn dilyn cerdyn coch yr eilydd, Sam Finley, ond Bangor oedd y tîm gorau trwy gydol y gêm ac roeddynt yn llawn haeddu’r fuddugoliaeth.
Y Gêm
Mygwyd prif fygythiad y Seintiau, Alex Darlington a Michael Wilde, gan dactegau da Neville Powell ac amddiffyn dewr Bangor fel tîm. Ond er gwaethaf eu goruchafiaeth ychydig o gyfleoedd a grëwyd gan y Dinasyddion yn yr hanner cyntaf a pheniad Damien Allen dros y trawst o chwe llath oedd yr agosaf a ddaethant.
Daeth Ryan Fraughan yn agos gyda foli gadarn yn y pen arall ond roedd Lee Idzi yn y gôl i Fangor ar flaenau’i draed.
Cafwyd mwy o gyffro o flaen gôl wedi’r egwyl gyda Harrison yn atal Simm toc wedi’r awr ac Idzi yn cyrraedd y bêl yn ddewr o flaen Wilde yn y pen arall.
Y Diweddglo
Daeth trobwynt y gêm ychydig dros ddeg munud o’r diwedd pan dderbyniodd Sam Finley gerdyn coch am dacl beryglus ar Chris Roberts. Ac os mai Bangor oedd y tîm gorau cyn hynny, dim ond hwy oedd yn y gêm wedyn.
Bu Allen yn wastraffus eto pan gafodd gyfle gwych i’w hennill hi ddau funud dros y naw deg ond roedd digon o amser ar ôl am ddiweddglo dramatig.
Planodd Idzi gic gôl hir i lawr y cae ac enillodd Les Davies y peniad, disgynnodd y bêl yn garedig i lwybr Jones a chododd yntau hi’n gelfydd dros Harrison yn y gôl.
Dipyn o gôl a doedd dim amser i’r Seintiau daro’n ôl felly aeth chwaraewyr a chefnogwyr ffyddlon y Dinasyddion yn wyllt.
Yr Ymateb
Chris Jones, sgoriwr Bangor a seren y gêm yn syth ar ôl y chwiban olaf:
“S’gen i’m geiriau i ddisgrifio sut dwi’n teimlo ar y funud. ’Ddigwyddodd yr un peth yma yn erbyn Cei Connah ddwy flynedd yn ôl a ’da ni’n ofnadwy o hapus ein bod ni yn y ffeinal eto.”
Cyflwynodd Les Davies, ffefryn ffyddloniaid Bangor, y fuddugoliaeth i un o gefnogwyr ifanc y clwb fu farw yn ystod yr wythnos:
“Mae o’n deimlad gwych ennill y gêm i’r cefnogwyr, ac er cof am Paul Davies hefyd.”
“Roedd hi’n ymdrech tîm wych, a dyna sydd yn ennill gemau i ni ym Mangor. Weithiau, fyddwn ni ddim ar ein gorau ond mae ein hysbryd a’n gwaith caled yn ennill gemau i ni.”
Fe fydd Bangor yn herio Prestatyn yn y rownd derfynol wedi iddynt hwy guro’r Barri yn y rownd gynderfynol arall heddiw.
.
Bangor
Tîm: Idzi, Brownhill, Morley, Johnson, Roberts, Hoy (S. Edwards 73’), R. Edwards, Allen, Jones, Davies, Simm (O’Toole 82’)
Gôl: Jones 90+4’
Cardiau Melyn: Hoy 31′ Roberts 57’, Simm 60’
.
Y Seintiau Newydd
Tîm: Harrison, Spender, Baker, K. Edwards, Marriott, Ruscoe, A. Edwards (Finley 46’), Fraughan, Darlington (Williams 71’), Jones, Wilde
Cardiau Melyn: Wilde 68’, Ruscoe 79’
Cerdyn Coch: Finley 79’
.
Torf: 486