Caergrawnt 0–0 Casnewydd

Di sgôr oedd hi rhwng Caergrawnt a Chasnewydd yn yr Abbey Stadium nos Wener wrth i obeithion Casnewydd o ennill Uwch Gynghrair y Blue Square bylu.

Roedd angen buddugoliaeth ar dîm Justin Edinburgh mewn gwirionedd i roi unrhyw fath o bwysau ar Mansfield a Kidderminster ar y brig ond gêm gyfartal yn unig a gafwyd.

Scott Donnolly a ddaeth agosaf i’r ymwelwyr pan darodd ei gic rydd yn erbyn y trawst, ond er i’r Cymry lwyr reoli’r gêm ni ddaeth y gôl holl bwysig.

Mae’r canlyniad yn cadw Casnewydd yn bedwerydd yn y tabl, bwynt y tu ôl i Wrecsam yn y trydydd safle a naw pwynt y tu ôl i Kidderminster ar y brig.

.

Caergrawnt

Tîm: Pope, Roberts, Anderson, McAuley, Wassmer, Shaw, Dunk, Jarvis, Elliott, Hughes (Blissett 87′), Smith (Pugh 46′)

.

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, Hughes, James, Yakubu, Anthony, Pipe, Minshull, Jolley (Washington 76′), Willmott, Donnelly, O’Connor (Griffiths 85′)

.

Torf: 2,012