Mae un o gyn-chwaraewyr enwocaf Casnewydd yn hyderus y gall ei hen glwb gael dyrchafiad o gyngres y Blue Square.
Ar hyn o bryd mae Casnewydd yn y pedwerydd safle a deg pwynt y tu ôl i Kidderminster sydd ar y brig. Os y byddan nhw’n curo Caergrawnt heno mi wnawn nhw ddisodli Wrecsam yn y trydydd safle.
Fe fu John Aldridge yn chwarae i Gasnewydd am bron i bum tymor cyn arwyddo i Rydychen yn 1984. Aeth ymlaen i serenu yng nghrysau Lerpwl a Real Sociedad.
‘‘Byddwn yn hoffi eu gweld yn cael dyrchafiad yn awtomatig ond os y daw dyrchafiad drwy chwarae yn y gemau ail-gyfle fe fydd popeth yn iawn,’’ meddai Aldridge.