Mae Joe Allen yn gobeithio y bydd cefnogwyr Lerpwl yn ei weld ar ei orau y tymor nesaf yn dilyn llawdriniaeth ar ei ysgwydd.
Bydd chwaraewr rhyngwladol 23 oed Cymru yn colli gweddill y tymor yn dilyn llawdriniaeth i’w ysgwydd chwith.
Fe wnaeth Allen ddilyn Brendan Rodgers o Abertawe i Lerpwl yn ystod haf 2012 am £15 miliwn, gan wneud dechreuad addawol yn y tîm ond dioddefodd ei gêm ychydig yn ystod y tymor.
Dywedodd ar wefan Lerpwl:
‘‘Nid yw’r cefnogwyr wedi gweld y gorau ohonaf hyd yn hyn. Nid yw’r misoedd diwethaf wedi bod cystal â hynny ond yr wyf yn ffyddiog y gallaf berfformio llawer yn well y tymor nesaf,’’.
Yn y cyfamser ni fydd Rodgers yn gwneud penderfyniad ynglŷn â dyfodol Andy Carroll hyd ddiwedd y tymor. Mae’r ymosodwr a arwyddwyd gan Kenny Dalglish am £35 miliwn wedi bod ar fenthyg gyda West Ham yn ystod y tymor hwn.