Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cynnig cynnal mwy o gemau Cwpan y Byd 2015 yn Stadiwm y Mileniwm, ar ôl iddi ddod yn hysbys na fydd stadiwm Old Trafford ym Manceinion ar gael i’w ddefnyddio.

Mae Manchester City wedi cynnig Stadiwm Etihad ar gyfer un gêm, ond mae angen lle i gynnal dwy gêm arall.

Yr oedd trefnwyr Cwpan y Byd wedi gobeithio medru gwerthu 225,000 o docynnau ar gyfer y tair gêm a oedd i fod yn Old Trafford, sy’n dal 76,000.

Mae’r trefnwyr wedi ystyried Parc St James yn Newcastle ac Elland Road, cartref Leeds United, ond byddai hynny yn golygu gwerthu llai o docynnau.

Gan fod yna ddigwyddiadau eisoes yn Wembley a gwaith atgyweirio yn digwydd yn y Stadiwm Olympaidd, mae Stadiwm y Mileniwm yn edrych fel lleoliad delfrydol.