Mae’r tymor criced dosbarth cyntaf yn dechrau heddiw i Forgannwg, wrth iddyn nhw herio Prifysgol Caerdydd.

Yn Stadiwm Swalec, mae Prifysgol Caerdydd wedi ennill tafliad y geiniog ac wedi gofyn i Forgannwg fatio’n gyntaf.

Gareth Rees a Will Bragg sydd wrthi’n agor y batio.

Tîm Morgannwg: Gareth Rees, Will Bragg, Stewart Walters, Marcus North, Ben Wright, James Allenby, Mark Wallace (capten, wicedwr), John Glover, Dean Cosker, Huw Waters, Michael Reed.