Ki yn dychwelyd o bosib
Mae rheolwr Abertawe Michael Laudrup wedi dweud wrth ei chwaraewyr y bydd yn rhaid iddyn nhw frwydro’n galed yn erbyn Norwich City ar faes Carrow Road yfory os yw’r Elyrch am ddod â’u rhediad gwael i ben. 

Mae’r Elyrch wedi colli i West Brom, Arsenal a Tottenham Hotspur yn ddiweddar.

‘‘Rydym yn gwybod beth i’w ddisgwyl gan Norwich ac mae angen pwyntiau arnyn nhw i osgoi syrthio i’r tri gwaelod yn y gynghrair ac ar hyn o bryd maen nhw’n mynd trwy gyfnod anodd,’’ meddai Laudrup.

‘‘Maen nhw’n dîm caled a chorfforol ac wedi sgorio y nifer mwyaf o goliau o giciau gosod yn y gynghrair. 

“Fel tîm rydym wedi ildio nifer o goliau o giciau gosod ac mae’n siwr y bydd Norwich wedi sylwi ar hynny,’’ ychwanegodd Laudrup.

Mae yna newyddion da i’r Elyrch gan ei bod yn debyg y bydd Chico Flores ac Angel Rangel ar gael i chwarae ar ôl gwella o anafiadau.  Mae’n debyg y bydd Ki Sung-Yueng yn dychwelyd i roi mwy o gadernid i’r tîm.

‘‘Dywedais ein bod am gael 50 o bwyntiau erbyn diwedd y tymor ac rwy’n dal i gredu bod hynny yn bosibl,’’ dywedodd Laudrup.