Gareth Bale
Fe fydd Gareth Bale yn chwarae eto’r tymor hwn, er gwaetha’ anaf drwg i’w ffêr.
Yn ôl rheolwr Spurs, mae’n debyg o ddod yn ôl o fewn tua phythefnos, ond fe fydd yn cael sgan ar y goes heddiw.
Fe gafodd y chwaraewr llachar ei anafu ym munudau ola’ gêm Spurs yn erbyn Basle neithiwr, pan safodd David Degen ar ei bigwrn.
Yn ôl y rheolwr Andr Villas-Boas, roedd y goes wedi chwyddo a’r poen yn fawr ond fe ddylai wella mewn pryd ar gyfer gêm bwysig Spurs yn yr Uwch Gynghrair yn erbyn Manchester City ar 21 Ebrill.
Cyfartal 2-2 oedd y gêm neithiwr yng Nghynghrair Europa.