Malky Mackay
Bydd Caerdydd yn gobeithio am fuddugoliaeth heno i ymestyn y bwlch ar frig y Bencampwriaeth, wrth iddyn nhw groesawu Caerlŷr i’r brifddinas.
Mae’r capten Mark Hudson yn debygol o ddychwelyd i’r tîm heno wedi iddo fethu dwy gêm ddiwethaf yr Adar Gleision, a bydd Craig Bellamy hefyd yn barod i chwarae, wedi iddo wella o anafiadau.
Bydd Caerlŷr yn awyddus i weld perfformiad da yn dilyn cyfnod siomedig i’r clwb. Dim ond un gêm allan o’r 7 diwethaf y mae tîm Nigel Pearson wedi eu hennill.
Bydd Caerlŷr heb yr amddifynwyr Ritchie de Laet a Paul Konchesky, ond nid yw rheolwr Caerdydd yn disgwyl gem hawdd i’w dîm.
“Dydyn nhw heb gael canlyniadau da yn ddiweddar, ond dwi’n ymwybodol o’r tîm sydd gan Gaerlŷr,” meddai Malky Mackay.
“Mae ganddyn nhw reolwr profiadol yn Nigel Pearson, sy’n berson da ac yn gallu chwalu tîm, fel gwnaeth o i Blackburn yn ddiweddar. Maen nhw wedi cael rhai canlyniadau anodd, ond mae ’na sêr yn y tîm yna.”
Bydd Caerdydd yn chwarae Caerlŷr yn Stadiwm y Ddinas, am 7.45 heno.